Hanes Ysgol I. D Hooson

Yn y saithdegau cynnar roedd tair ysgol yn y Rhos sef Ysgol Ponciau, Ysgol y Rhos ac Ysgol y Wern. Ysgol Eglwys oedd Ysgol y Wern yn cynnig ei haddysg trwy gyfrwng y Saesneg. Roedd Ysgol Y Ponciau ac Ysgol y Rhos mewn categori a elwid yn Ysgolion Naturiol Gymraeg. Polisi'r hen Sir Ddinbych oedd hyn lle’r egwyddor oedd bod plant yn cael eu dysgu trwy gyfrwng eu mamiaith. Erbyn canol y Saithdegau roedd hyn wedi golygu fod Ysgol y Ponciau a fu’n cynnig eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg bellach yn gwneud hynny trwy gyfrwng y Saesneg, ac roedd ymchwydd mawr yn niferoedd plant o gartrefi Saesneg yn Ysgol y Rhos yn golygu fod yr un peth ar fin digwydd yno, ac felly byddai addysg Gymraeg yn ardal y Rhos wedi dod i ben. Canlyniad arall y polisi hwn oedd nad oedd cyfle i blant o gartrefi Saesneg ddysgu Cymraeg ar waethaf dymuniadau rhieni.

Yn annisgwyl bron daeth datrysiad i’r broblem o ddigwyddiad hollol annisgwyl. Canfuwyd fod nifer o byllau dan Ysgol y Ponciau a bu’n rhaid symud yr holl blant allan o’r adeilad a’u gosod mewn cabannau tros dro ar safle lle saif y Clinic erbyn hyn yn Stryt Lydan. Gwelodd nifer o rieni gyfle yma i gadw’r cabannau yn eu lle a sefydlu Ysgol Gymraeg ynddynt ar ôl i Ysgol y Ponciau adael. Bu dadlau ac yn wir ffraeo cas dros yr egwyddor gyda nifer yn gwrthwynebu ‘apartheid’ o’r fath, ond gan fod natur Ysgol y Rhos yn prysur newid penderfynwyd sefydlu Uned Gymraeg o dan Ysgol y Rhos.

Mewn gwirionedd dwy Ysgol oedd Ysgol y Rhos fel yn wir oedd Ysgol Ponciau yn y dyddiau hynny gydag Ysgol Babanod ac Ysgol Iau arwahan i’w gilydd. Roedd yr Uned Gymraeg sefydlwyd yn 1976 felly yn Uned dan Ysgol y Babanod gyda Mrs Brenda Jones yn Bennaeth ar y ddau safle. Roedd Mrs Glenys Lewis dirprwy yr Ysgol Fabanod yng ngofal dydd i ddydd o’r Uned. Aelodau eraill y Staff dysgu oedd Mrs Rhoda Rees a Mrs Elizabeth Pritchard gyda Mrs Helen Jones yn weinyddes feithrin.

Fel y tyfodd y plant i’r Ysgol Iau daeth y plant dan ofal Mr Richard Jones oedd yn bennaeth ar Ysgol Iau y Rhos a phenodwyd Mr Bryn Jones yn athro yn yr Uned Gymraeg.Erbyn1979 roedd Mr Richard Jones yn dysgu’r dosbarth hynaf yn yr Uned ond roedd problemau o redeg beth oedd i bob pwrpas yn ysgolion arwahan yn profi’n gynyddol anodd.

Yn 1980 felly ar ymddeoliad Mrs Brenda Jones, penderfynodd Awdurdod Addysg Clwyd gau yn swyddogol Ysgolion Iau a Babanod y Rhos a sefydlu dwy Ysgol newydd sef ysgol Cyfrwng Cymraeg ar safle Stryt Lydan ac Ysgol Cyfrwng Saesneg ar safle Ysgol y Rhos. Yr Ysgol Gymraeg ar y pryd oedd y lleiaf o blith y pedair ysgol.

O gael Ysgol newydd rhaid oedd cael enw ac wedi cryn drafodaeth penderfynwyd ar yr enw Ysgol Hooson. Roedd hi fel roedd yn digwydd yn flwyddyn canmlwyddiant ers geni'r bardd I.D. Hooson, bardd a alwyd yn fardd plant Cymru ac a roes, gyda llaw, lawer o’r arian tuag at brynu Gwersyll Glanllyn i’r Urdd. Penderfynnwyd ar wisg ysgol, rhywbeth newydd ar y pryd i ysgolion Rhos, ac a feirniadwyd gan rai am roi gwedd elitaidd i’r Ysgol. Ond o fewn dim o dro gwelwyd yr ysgolion eraill hefyd yn mabwysiadu gwisg ysgol hefyd. Roedd gofyn am fathodyn ysgol a dyluniwyd hynny gan Wyn Potter oedd yn un o’r rhieni.

Wrth gwrs adeiladau tros dro oedd gan yr Ysgol ac adeiladau gwael heb gaeau chwarae o gwbl oedd gan Ysgol y Rhos gyda dwy ffordd gul gyhoeddus rhwng y tri adeilad. Roedd cynlluniau wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd gan yr Awdurdod Addysg i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol y Rhos, ond bellach wrth gwrs roedd amgylchiadau wedi newid gyda dwy ysgol arwahan i’w gilydd. Cynllun yr Awdurdod oedd sefydlu Ysgol newydd ym Mhentredŵr fyddid yn cael ei rannu gan y ddwy ysgol. Ysgol dwy adain gyda’r Neuadd yn cael ei rhannu.

Roedd rhieni a Llywodraethwyr Ysgol Hooson yn awyddus i aros ar eu safle bendigedig yng nghanol y pentref, ac yn naturiol wedi sefydlu ei hun ddim yn awyddus i ddychwelyd i rannu safle gydag Ysgol y Rhos. Gwnaed ymgyrch gref gan y rhieni i wrthwynebu’r symud ond mynnwyd fod y tir yn perthyn i’r Awdurdod Iechyd ac felly doedd dim dewis ond symud a hynny waned yn I986.

Adeilad wedi gynllunio ar gyfer 250 o blant oedd yr un newydd gyda’r Awdurdod yn rhagweld niferoedd o 120 o blant ar gyfer y ddwy ysgol. Roedd Neuadd a Chegin i’w rhannu a hefyd un ystafell ddosbarth. Roedd yr adeilad wedi ei gynllunio yn y fath fodd fel bod un ochr yn adlewyrchiad o’r ochr arall. Erbyn amser symud fodd bynnag roedd Ysgol Hooson eisoes yn fwy na’r 120 a daeth y dosbarth ychwanegol yn rhan o Ysgol Hooson. Hanes o dyfu bu wedyn, ac o dipyn i beth bu’n rhaid i’r Adran Iau ddychwelyd i gabannau ar y cae. Cabannau digon anaddas oedd y rhain gan fwyaf ac yn amlwg ni allai’r sefyllfa barhau.

Erbyn troad y ganrif roedd pwysau ar Awdurdod Wrecsam erbyn hyn i weithredu, ond gyda sefyllfa tiroedd o fewn yr ardal yn brin anodd oedd gweithredu ar un Ysgol yn unig. Ar ben hynny roedd adeiladau Ysgol y Ponciau oedd yn dyddio’n ôl i 1840 yn anaddas a doedd adeilad Ysgol y Wern adeiladwyd yn 60au’r ganrif ddiwethaf fawr gwell. Roedd niferoedd Ysgol y Wern wedi lleihau ac o dipyn i beth datblygodd y syniad o greu un Ysgol cyfrwng Saesneg gan adael i Ysgol Hooson gael ei adeilad ei hun.

Yn dilyn cryn dipyn o drafodaethau ac anghydweld lleol cytunwyd yn y diwedd ar fod Ysgol I.D. Hooson fel y gelwid erbyn hyn symud i safle Y Bonc Ddu sydd rhwng Penycae a’r Rhos a bod yr ysgolion Saesneg yn uno dan enw newydd o Ysgol Maes y Mynydd ar safle Pentredŵr.

Yn 2007 agorwyd yr adeilad newydd lle lleolir yr ysgol heddiw Nifer y disgyblion bryd hynny oedd 220?. Yn 2008 yn dilyn ymddeoliad Mr Richard Jones penodwyd Mr Dafydd Rhys yn bennaeth. Ers symud i’r adeilad newydd cynyddu wnaeth y galw am addysg Gymraeg yn y Cylch a rhagwelir y bydd hi’n ysgol o 350 erbyn 2015.